Mae Prosiect Atgyweirio Ffynnon Dyfnog yn ddifrifol iawn ynghylch diogelu eich preifatrwydd. Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer unrhyw beth heblaw i ddarparu’r gwasanaethau [a’r cynhyrchion] yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym ni, ac i gyflawni ein cyfrifoldebau cyfreithiol.
Sut ydym ni’n casglu gwybodaeth gennych chi?
Rydym yn cael gwybodaeth amdanoch pan fyddwch yn ein defnyddio ni i ddarparu ein gwasanaethau [a/neu gynhyrchion] a/neu pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, er enghraifft, pan fyddwch yn cysylltu â ni am ein gwasanaethau [a/neu gynhyrchion].
Pa fath o wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu gennych chi?
Bydd yr wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi’n amrywio yn dibynnu pa wasanaethau yr ydych yn gofyn i ni eu darparu. Gallai’r wybodaeth bersonol a gasglwn gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, manylion cyfrif banc, eich cyfeiriad IP, pa dudalennau yr ydych efallai wedi ymweld â nhw ar ein gwefan a phryd yr oeddech wedi agor y tudalennau hyn.
Sut ydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth?
Yn gyffredinol, ac yn dibynnu pa wasanaethau yr ydych yn gofyn i ni eu darparu, yn rhan o’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau y cytunwyd arnynt, gallem ddefnyddio eich gwybodaeth i:
- gysylltu â chi drwy’r post, gydag e-bost neu dros y ffôn
- wirio eich hunaniaeth lle bydd hyn yn ofynnol
- ddeall eich anghenion a sut y gallem ateb yr anghenion hynny
- gynnal ein cofnodion yn unol â goblygiadau cyfreithiol a rheoliadol perthnasol
- brosesu trafodion ariannol
- atal a chanfod trosedd, twyll neu lygru
Mae’n ofynnol arnom yn ôl y gyfraith, yn ôl gofynion rheoliadol eraill ac yn unol â’n hyswirwyr i gadw eich data pan fyddwn wedi gorffen gweithredu ar eich rhan. Mae’r cyfnod cadw gofynnol yn amrywio yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth berthnasol ond, fel arfer, mae’n bump neu chwe blynedd. I sicrhau cydymffurfiad â’r holl ofynion, mae’n bolisi gan y cwmni gadw eich data i gyd am gyfnod o chwe blynedd o ddiwedd y cyfnod perthnasol.
Pwy sy’n gallu cyrchu eich gwybodaeth?
- Ni fyddwn yn gwerthu neu’n rhentu eich gwybodaeth i drydydd parti.
- Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon at ddibenion marchnata.
- Mae gan unrhyw staff sy’n gallu cyrchu eich gwybodaeth ddyletswydd o gyfrinachedd o dan y safonau moesegol y mae’n ofynnol i’r cwmni hwn eu dilyn.
Darparwyr Gwasanaethau Trydydd parti sy’n gweithio ar ein rhan
Gallem basio eich gwybodaeth i’n darparwyr gwasanaethau trydydd parti, asiantau, is-gontractwyr a sefydliadau cyswllt eraill at ddibenion cwblhau tasgau a darparu gwasanaethau i chi ar ein rhan, er enghraifft, i brosesu cyflogres neu gadw cyfrifon sylfaenol. Fodd bynnag, pan fyddwn yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti, rydym yn datgelu dim ond yr wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth ac mae gennym gontract yn ei le sy’n gofyn iddynt gadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac i beidio ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.
Hoffem eich sicrhau chi na fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth i drydydd parti heblaw eich bod wedi gofyn i ni wneud hynny, neu y mae gofyn inni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er enghraifft, gan orchymyn llys neu at ddibenion atal a chanfod trosedd, twyll neu lygru.
Sut allwch chi gyrchu a diweddaru eich gwybodaeth?
Mae’n bwysig i ni ein bod yn cadw eich gwybodaeth yn gywir ac wedi ei diweddaru. Rydym yn ymrwymo i adolygu’r wybodaeth a ddaliwn amdanoch chi’n rheolaidd a’i gywiro lle bo raid. Os bydd unrhyw ran o’ch gwybodaeth yn newid, anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch atom, neu cysylltwch â ni yma.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth y mae Prosiect Atgyweirio Ffynnon Dyfnog yn ei dal amdanoch chi.
Y rhagofalon diogelwch sydd yn eu lle i ddiogelu eich gwybodaeth rhag colled, camddefnyddio neu ddiwygio
Er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth a drosglwyddwch i ni, ac rydych yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun.
Unwaith y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau ei bod yn ddiogel ar ein systemau. Pan fyddwn wedi rhoi cyfrinair i chi, neu lle’r ydych chi wedi dewis cyfrinair sy’n eich galluogi i gyrchu gwybodaeth, rydych yn gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwnnw’n gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio rhannu eich cyfrinair gydag unrhyw un.
Fel arfer bydd eich data’n cael ei brosesu yn ei swyddfeydd yn y DU. Fodd bynnag, i adael i ni weithredu prosesau digidol effeithlon, weithiau mae angen i ni storio gwybodaeth ar weinyddion y tu allan i’r DU, ond o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Rydym yn ddifrifol iawn ynghylch cadw eich data’n ddiogel ac felly mae gan ein systemau i gyd ddiogelwch priodol yn eu lle sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion rheoliadol a deddfwriaethol perthnasol.
Eich dewisiadau
Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi’n achlysurol drwy’r post / mewn e-bost / dros y ffôn gyda manylion unrhyw newidiadau mewn gofynion cyfreithiol a rheoliadol neu ddatblygiadau eraill a allai fod yn berthnasol i’ch materion chi a, lle bo’n berthnasol, sut y gallem eich helpu chi ymhellach. Os nad ydych eisiau derbyn gwybodaeth o’r fath gennym, gadewch i ni wybod drwy gysylltu â ni os gwelwch yn dda.
Cwcis
Cynnwys mewnblanedig o wefannau eraill
Gallai’r erthyglau sydd ar y wefan hon fod â chynnwys mewnblanedig (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys mewnblanedig o wefannau eraill yn ymddwyn yn union yr un fath ag y byddai os byddai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.
Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data amdanoch, yn defnyddio cwcis, yn mewnblannu tracio trydydd parti ychwanegol, ac yn monitro eich rhyngweithio gyda’r cynnwys mewnblanedig hwnnw, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio gyda’r cynnwys mewnblanedig os oes gennych gyfrif ac rydych wedi mewngofnodi i’r wefan honno.
Dadansoddeg
Rydym yn defnyddio’r gwasanaeth Clicky Analytics i weld pa mor dda mae ein gwefan yn perfformio ac i’n galluogi ni i wella ein gwasanaethau gwefan. Maen nhw’n dweud hyn:
“Rydym yn gwerthfawrogi preifatrwydd ymwelwyr â gwefannau sy’n cael eu monitro gan ein gwasanaeth. Yn ddiofyn, nid ydym yn cofnodi unrhyw ddata personol, heblaw cwci tracio sy’n cynnwys ID Unigryw (“UID”) a gynhyrchir ar hap; mae cyfeiriadau IP yn ddi-enw a pherchir penawdau “Peidiwch â Thracio” a chwcis optio allan global.”
Eich hawliau
Mynediad at eich gwybodaeth: Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol a ddaliwn amdanoch chi.
Cywiro eich gwybodaeth: Rydym eisiau sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir, yn gyflawn ac wedi ei diweddaru, ac mae hawl gennych chi ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi nad yw’n cyrraedd y safonau hyn yn eich tyb chi.
Dileu eich gwybodaeth: Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu gwybodaeth bersonol amdanoch os:
ydych yn ystyried nad ydym angen yr wybodaeth bellach i’r pwrpasau y rhoddwyd yr wybodaeth
ydych wedi rhoi rhesymau dilys i wrthwynebu ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol – gwelwch ‘Gwrthwynebu i’r ffordd y gallem ddefnyddio eich gwybodaeth’ isod neu mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn torri’r gyfraith neu’n mynd yn erbyn ein hymrwymiadau cyfreithiol eraill
ydym yn defnyddio eich gwybodaeth gyda’ch caniatâd ac rydych wedi tynnu eich caniatâd yn ei ôl – gwelwch ‘dileu caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth’ isod.
Cyfyngu ar y ffordd y gallem ddefnyddio eich gwybodaeth: Mewn rhai achosion, gallech ofyn i ni gyfyngu ar y ffordd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Gallai’r hawl hwn fod yn berthnasol, er enghraifft, pan fyddwn yn gwirio pa mor gywir yw’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal amdanoch chi neu’n asesu dilysrwydd unrhyw wrthwynebiad yr ydych wedi’i wneud i’n defnydd ni o’ch gwybodaeth. Gallai’r hawl hwn fod yn berthnasol hefyd os nad oes sail mwyach ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol ond dydych chi ddim eisiau i ni ddileu’r data. Pan fydd yr hawl hwn wedi ei arfer yn ddilys, chawn ni ond defnyddio’r wybodaeth bersonol hon gyda’ch caniatâd chi, ar gyfer hawliadau cyfreithiol neu lle mae rhesymau budd cyhoeddus eraill am wneud hynny.
Gwrthwynebu’r ffordd y gallem ddefnyddio eich gwybodaeth:
Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud tasgau a wneir er budd y cyhoedd, os byddwch yn gofyn i ni, byddwn yn peidio defnyddio’r wybodaeth bersonol honno heblaw bod y sail ddilys i barhau yn drech na’r cais hwnnw.
Dileu caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth: Pan fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol gyda’ch caniatâd chi, cewch dynnu’r caniatâd hwnnw yn ei ôl unrhyw bryd a byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer y diben(ion) y rhoddwyd y caniatâd iddo/iddynt yn y lle cyntaf.
Cysylltwch â ni os byddwch eisiau arfer unrhyw rai o’r hawliau hyn.
Cwynion
Rydym yn ceisio datrys yn uniongyrchol unrhyw gŵyn am y ffordd yr ydym yn trin eich gwybodaeth bersonol, ond mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn – 0303 123 1113 (y gyfradd leol) neu 01625 545 745
Gellir rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am gwynion a phryderon yn y fan yma
Newidiadau i’r polisi
Os byddwn yn newid cynnwys y polisi hwn, bydd y newidiadau hynny’n dod i rym y funud y byddwn yn eu cyhoeddi nhw ar ein gwefan.
Mai 2020