Mae Ffynnon Sant Dyfnog yn llawn o nodweddion hanesyddol hyfryd, o’r basn ei hun i’r pontydd y byddwch yn cerdded drostynt i fynd ato. Mae blynyddoedd o esgeulustod wedi golygu bod llawer o’r nodweddion hyn wedi mynd yn ddadfeiliog ac mewn perygl o gwympo, ac mae’r bont uchaf yn bygwth cwympo unrhyw bryd. Bwriad Prosiect Atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog yw adfer a thrwsio’r nodweddion hyn i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i fynd i’r fan arbennig hon. Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweld y pethau yr ydym wedi eu gwneud.