
“Wrth droed y bryncyn hwn mae Ffynnon Sant Dyfnog, ffynnon deg oedd yn gyrchnod poblogaidd i selogion yr oes a fu. Mae’r ffrwd sy’n codi wedi’i hamgáu gan fur onglog ac arno addurn o ffigurau dynol bychan ac, o’i blaen, mae ffynnon i ymdrochwyr duwiol.”
Atgyweiriad Ffynnon Sant Dyfnog
Yn swatio’n ddwfn mewn coedwig hyfryd wrth ymyl Eglwys Llanrhaeadr yng Nghinmeirch mae Ffynnon Dyfnog. Mae’r ffynnon hon a’i brithwaith o hanes yn gyrchfan i bererinion, yn llecyn hardd lleol ac yn hafan i fywyd gwyllt.
Cychwynnodd y prosiect adnewyddu yn 2012 pan ddaeth mwy na hanner cant o drigolion lleol at ei gilydd i leisio pryder am gyflwr Ffynnon Dyfnog wedi i ran o’r bont gerllaw basn y ffynnon gwympo. O ganlyniad i’r cyfarfod hwn ffurfiwyd pwyllgor o ymddiriedolwyr, Cymdeithas Cadwraeth Llanrhaeadr YC Preservation Society, a’i nod oedd codi arian i ddiogelu dyfodol y ffynnon. Yn 2018, cychwynnodd y gwaith o adfer y ffynnon a’r goedwig o’i hamgylch.

Volunteering dates and events for June 2022
Wednesday 22nd June – Bat walk 9pm – 10:30pm Saturday 25th June – Woodland crafts family activity 1:30pm 3:30pm (FREE…

Prosiect Ysgol – Gwneud ffilm
Mae Prosiect Atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog yn cydweithio ag Ysgol Bro Cinmeirch, Ysgol Pant Pastynog a TAPE Music and Film…

Croeso i wefan newydd Ffynnon Sant Dyfnog
Newyddion cyffrous… Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn llunio ein gwefan ac mae’n bleser mawr…