Mae’r gwaith o atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog wedi bod yn eithriadol o heriol.
Yn hanesyddol, yr unig ffordd o gyrraedd y safle oedd ar droed felly ein problem gyntaf oedd mynd â defnyddiau i’r safle. I ddatrys hynny roedd rhaid i ni droi rhan o’r safle’n storfa adeiladu i gadw’r defnyddiau. Gwnaethom hynny drwy dynnu’r wal gerrig a rhoi giât fawr yn ei lle. Unwaith y byddwn wedi gorffen y gwaith atgyweirio, byddwn yn ail adeiladu’r hen wal eto ac yn gosod giât fach haearn i gerddwyr fynd i mewn.
Y nodwedd gyntaf i dderbyn sylw oedd y bont gerllaw basn y ffynnon oedd mewn perygl o gwympo unrhyw bryd. I archwilio’r bont roedd angen i ni rwystro’r dŵr rhag mynd i mewn i’r basn. Gwnaethom hynny drwy ddargyfeirio’r dŵr gyda bagiau tywod i mewn i’r hen ffos ac yna bwmpio gweddill y dŵr allan o’r basn. Rhoddodd hyn y cyfle i ni asesu basn y ffynnon a oedd yn ddiddorol iawn ac yn dangos i ni ei fod yn gollwng fwy nag yr oedden ni wedi sylweddoli!
Unwaith i’r dŵr gael ei ddargyfeirio ac ar ôl gwneud yr ymchwiliad, cychwynodd y gwaith o gasglu cerrig oedd wedi syrthio o’r tu mewn ac o dan y basn a fyddai eu hangen i ail adeiladu’r bont. Pan aeth y contractwyr, Grosvenor Construction, ati i dynnu’r ddaear oedd yn gorchuddio top y bont, cwympodd y bont o’r diwedd. Roedden ni’n disgwyl hynny am fod hanner y bont wedi disgyn rai blynyddoedd ynghynt. Yna aeth y contractwyr ati i glirio’r pridd yn ôl i’w wneud yn ddiogel i’r gweithwyr cyn iddyn nhw ddechrau trwsio’r bont a mynedfa’r ffos.
I ddechrau, aethent ati i adeiladu sylfeini newydd ar gyfer y bont ar wely’r graig yn y nant gan ddefnyddio priddgalch traddodiadol. Rhoddodd hyn sylfaen gadarn yn barod ar gyfer adeiladu bwâu’r bont a’r sianel. I wneud y bwa, defnyddiodd y contractwyr y dull traddodiadol a ddefnyddiwyd yn gyntaf gan y Rhufeiniaid, sef adeiladu bwa pren yn gyntaf i weithio fel ffrâm i ddal y cerrig yn eu lle tra’r oedden nhw’n adeiladu’r bwa. Pan oedd y cerrig yn eu lle, gallai’r bwa pren dros dro ddod i lawr.
Pan oedd pen y bont yn sefydlog unwaith eto, symudodd y contractwyr ymlaen at y pontydd eraill oedd angen eu pwyntio ac ail adeiladu’r waliau adain sy’n sefydlogi llif y dŵr i mewn i’r pontydd ac atal y cloddiau rhag erydu.
Ein prosiect mawr nesaf fydd basn y ffynnon felly cymerwch sbec eto cyn hir i gael mwy o newyddion.