Newyddion cyffrous…
Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn llunio ein gwefan ac mae’n bleser mawr gennym allu ei rhannu gyda chi o’r diwedd. Yma cewch wybodaeth am Ffynnon Sant Dyfnog yn ogystal â’r diweddaraf am y prosiect atgyweirio. Mae hon yn wefan sy’n esblygu a byddwn yn parhau i roi diweddariadau arni am ddigwyddiadau cyfredol, cyhoeddiadau a newyddion felly dewch yn ôl i gael sbec yn rheolaidd.
Cyfrannu at brosiect Ffynnon Sant Dyfnog
Hoffem roi’r cyfle hwn i chi gyfrannu at y prosiect hefyd. Os ewch chi i’n tudalen gysylltu gallwch anfon unrhyw erthyglau, ffotograffau a fideos sydd gennych o’r safle, byddem wrth ein boddau’n eu gweld nhw.
Hefyd, ydych chi wedi gweithio’n wirfoddol i’r prosiect? Os felly, rhannwch unrhyw luniau neu sylwadau sydd gennych am y gwaith a wnaethoch oherwydd mae hi bob amser yn hyfryd clywed gennych chi.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweld a dysgu am ein prosiect hynod ddiddorol ond, os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda’r wefan, byddem yn gwerthfawrogi clywed gennych – gadewch i ni wybod drwy’r dudalen gysylltu.
Cofiwch, gallwch ein dilyn ni hefyd ar Facebook, Twitter ac Instagram lle gallwch glywed y diweddaraf am ddatblygiadau newydd cyffrous.