• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

st dyfnogs well

The restoration of St Dyfnog's Well

Header Left

  • English
  • Cymraeg

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Header Left

  • English
  • Cymraeg

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
  • Hafan
  • Ein stori
  • Newyddion
  • Archaeoleg a Hanes
  • Ysgolion
  • Gwirfoddoli
  • Orielau
  • Cysylltu
  • Hafan
  • Ein stori
  • Newyddion
  • Archaeoleg a Hanes
  • Ysgolion
  • Gwirfoddoli
  • Orielau
  • Cysylltu

Swydd i Wirfoddolwr Cadwraeth

View of Trench 3 from the well basin

Beth yw Gwirfoddolwr Cadwraeth?

Bwriad prosiect atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog yw trwsio’r nodweddion adeiledig fel basn y ffynnon a’r pontydd yn ogystal ag adfer y goedwig wyllt yn gynefin ffyniannus i fioamrywiaeth fel bod y gymuned leol ac ymelwyr hefyd yn gallu mwynhau’r safle am flynyddoedd i ddod.

Bydd Gwirfoddolwr Cadwraeth yn gwneud amrywiol rolau, megis rheoli’r goedwig, adeiladu llwybr troed a gofalu amdano, cynnal a chadw’r safle yn gyffredinol, gwneud arolygon ecolegol a gwneud gweithgareddau i wella’r fioamrywiaeth. Bydd ei rôl hefyd yn cynnwys helpu i dywys teithiau cerdded, rhoi sgyrsiau ac ymwneud yn gyffredinol â’r cyhoedd. Dyma rai o’r rolau a gallwch wneud cymaint ohonynt ag y dymunwch.

Beth yw’r manteision i chi?

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cwr o fywyd a gwneud ffrindiau newydd
  • Mwynhau profiadau newydd a dysgu rhywbeth newydd bob dydd
  • Y cyfle i ddysgu ac ymarfer technegau
  • Y cyfle i ddatblygu sgiliau a dysgu rhai newydd
  • Y cyfle i ddysgu rhagor ynglŷn â sut i reoli safle coetir

Beth fydd y gofynion?

  • Cael eich cyflwyno i’r gwaith a’r prosiect
  • Dod yn gyfarwydd â’r safle a dod i ddeall y tasgau
  • Gwneud y tasgau sydd wedi eu trefnu gyda’r rheolwr prosiect.

Elfennau eraill:

  • Efallai y bydd gweithgareddau eraill lle byddai eich cymorth yn ddefnyddiol
  • Bydd y rôl hon yn addas i bobl…. sy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored ymhob tywydd heb fod ofn ychydig o faw; sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol.

Manylion ychwanegol

Lleoliad: Ar safle Ffynnon Sant Dyfnog y tu ôl i’r Eglwys yn Llanrhaeadr

Ymrwymiad o ran amser: Hyblyg, ond oddeutu 5-10 awr y mis

Cyswllt: Samantha Jones (Rheolwr y Prosiect)

Ffôn: 07889797062

E-bost Samantha.jones.dyfnog2018@gmail.com

Beth i’w wisgo / i ddod gyda chi

Cinio canol dydd os byddwch chi yno drwy’r diwrnod cyfan. Dillad awyr agored, esgidiau cryfion ac ati, ond bydd y prosiect yn darparu cyfarpar diogelu personol fel menig, offer ac ati

Hyfforddiant/Adnoddau: Byddwch yn derbyn hyfforddiant yn y meysydd hyn:

  • Cadwraeth yr amgylchedd, gwaith ymarferol i adeiladu a thrwsio’r llwybr troed, defnyddio offer
  • Iechyd a diogelwch, technegau cofnodi ac arolygu ecolegol ymarferol

Treuliau: Byddwch yn cael ad-daliad am dreuliau teithio

Mae’r rôl hon yn gwbl wirfoddol ac nid yw’r trefniant hwn i fod yn drefniant sy’n eich clymu’n gyfreithiol nac yn gontract cyflogaeth.

Previous Post: «The end of the excavations Diwrnod Rhyngwladol y Gwirfoddolwr
Next Post: Prosiect Ysgol – Gwaith Celf y Panel 9st dyfnogs school project»

Primary Sidebar

Categoriau

  • Archaeoleg a Hanes
  • Gwirfoddoli
  • Newyddion
  • Orielau
  • Ysgolion

Y newyddion diweddaraf

  • Cyflwyno’r Cydlynwyr newydd Ymgysylltu â’r Gymuned a Gwirfoddolwyr
  • Y prosiect atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog hyd yma
  • Prosiect Ysgol – Gwneud ffilm
  • Croeso i wefan newydd Ffynnon Sant Dyfnog
  • Darlithoedd y Gaeaf CPAT 2020 – Ffynnon Sant Dyfnog

Oriel

Volunteers surveying in the trenches
Volunteers clearing back Trench 3

Footer

  • Polisi Preifatrwydd
  • Ein Cefndir
  • Ein stori
  • Y Cloddio
  • Cysylltu
heritage lottery fund logo

Copyright © 2022 St Dyfnog's Well. All rights reserved.

Registered Charity no. 1185488

Colony of Ants Web Design and Development