Blwyddyn Newydd, cyfres newydd o sgyrsiau gan archeolegwyr i godi ein calonnau ar nosweithiau Gwener tywyll y gaeaf!
Y bumed o’n tymor o Ddarlithoedd y Gaeaf 2020 yw Samantha Jones, y Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog.
Yn 2019, aeth y prosiect ati i wneud gwaith arolygu a chloddio cymunedol ar safle Ffynnon Sant Dyfnog. Bydd eu Rheolwr Prosiect yn rhannu eu canfyddiadau a’u profiadau yn y sgwrs ddiddorol hon.
Gallwch weld eu prosiect yma ar Facebook
Byddwn yn cynnal ein Darlithoedd y Gaeaf o fis Ionawr hyd fis Mawrth 2020, gydag amrywiaeth ddiddorol iawn o sgyrsiau gan siaradwyr arbenigol. Y tymor hwn byddwn yn cynnal y darlithoedd yn y Gyfnewidfa Ŷd, Neuadd y Dref y Trallwng, Broad Street, Y Trallwng, SY21 7JQ.
Bydd y drysau’n agor am 6:30pm a’r sgyrsiau’n cychwyn am 7.
Mae’r sgyrsiau’n RHAD AC AM DDIM i Gyfeillion CPAT, £3 i bawb arall.