Beth yw Ymchwiliwr Cymunedol Gwirfoddol?
Bwriad prosiect atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog yw trwsio’r nodweddion adeiledig fel basn y ffynnon a’r pontydd yn ogystal ag adfer y goedwig wyllt yn gynefin ffyniannus i fioamrywiaeth fel bod y gymuned leol ac ymelwyr hefyd yn gallu mwynhau’r safle am flynyddoedd i ddod.
Bydd Ymchwiliwr Cymunedol Gwirfoddol yn gwneud amrywiol rolau, megis ymchwilio archifau a chasglu atgofion gan y gymuned a fydd yn ein helpu i adrodd stori’r safle.
Beth yw’r manteision i chi?
- Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
- Cwrdd â phobl o bob cwr o fywyd a gwneud ffrindiau newydd
- Mwynhau profiadau newydd a dysgu rhywbeth newydd bob dydd
- Y cyfle i ddysgu ac ymarfer technegau
- Y cyfle i ddatblygu sgiliau a dysgu rhai newydd
- Y cyfle i ddysgu rhagor am wneud gwaith ymchwil a chasglu hanesion llafar
Beth fydd y gofynion?
- Cael eich cyflwyno i’r gwaith a’r prosiect
- Dod yn gyfarwydd â’r safle a dod i ddeall y tasgau
- Gwneud y tasgau sydd wedi eu trefnu gyda’r rheolwr prosiect.
Gallai hyn gynnwys:
- Ymweld ag Archifau’r Sir a lleoliadau eraill i wneud gwaith ymchwil i’r ffynnon, y safle ac agweddau cysylltiedig eraill megis perchnogaeth yr ystâd gan Llanrhaeadr Hall
- Casglu hanesion llafar sy’n rhannu atgofion pobl a’u cysylltiadau â’r safle
- Cyfranogi yn y gwaith o ysgrifennu erthyglau a chynnwys i’r wefan, trefnu arddangosfeydd bach
- Helpu i ddarparu digwyddiadau
- Cyfathrebiad parhaus gyda’r Rheolwr Prosiect ac adrodd yn ôl iddi
- Dod yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ac yna eu dilyn bob amser
- Efallai y bydd gweithgareddau eraill lle byddai eich cymorth yn ddefnyddiol.
Bydd y rôl hon yn addas i bobl…. sy’n mwynhau hanes a dysgu am y gorffennol. Pobl sy’n mwynhau cyfarfod pobl eraill.
Manylion ychwanegol
Lleoliad: Gweithio o adre ar eich cyfrifiadur eich hun neu yn llyfrgell y sir ac ar eu cyfrifiaduron hwy, yn ogystal ag ymweld ag archifau
Mae’r gallu i ddefnyddio cyfrifiaduron yn bwysig ar gyfer y rôl hon.
Ymrwymiad o ran amser: Hyblyg, ond oddeutu 5-10 awr y mis
Cyswllt: Samantha Jones (Rheolwr y Prosiect)
Ffôn: 07889797062
E-bost Samantha.jones.dyfnog2018@gmail.com
Hyfforddiant/Adnoddau: Byddwch yn derbyn hyfforddiant yn y meysydd hyn:
- Sut i ddefnyddio a chwilio am ddogfennaeth mewn archif
- Sut i gyfweld ar gyfer hanesion llafar
- Sut i roi arddangosfa at ei gilydd
Treuliau: Byddwch yn cael ad-daliad am dreuliau teithio ac unrhyw gostau ‘allan o’ch poced’.