• Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

st dyfnogs well

The restoration of St Dyfnog's Well

Header Left

  • English
  • Cymraeg

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube

Header Left

  • English
  • Cymraeg

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
  • Hafan
  • Ein stori
  • Newyddion
  • Archaeoleg a Hanes
  • Ysgolion
  • Gwirfoddoli
  • Orielau
  • Cysylltu
  • Hafan
  • Ein stori
  • Newyddion
  • Archaeoleg a Hanes
  • Ysgolion
  • Gwirfoddoli
  • Orielau
  • Cysylltu

Archaeoleg Ffynnon Sant Dyfnog

Mae dirgelwch mawr ynglŷn â Ffynnon Sant Dyfnog ac, yn 2019, bu gwirfoddolwyr yn helpu gyda’r gwaith cloddio cyntaf y gwyddys amdano ar y safle.

Yn rhan o’r prosiect atgyweirio, rydym wedi gallu gwneud gwaith archeolegol ar y safle am y tro cyntaf. Roedd hwn yn gyfle cyffrous i ni geisio deall y safle’n well gyda chymorth gwirfoddolwyr.

Arolwg Topograffig

Ym mis Chwefror 2019 aethpwyd ati gyda chymorth gwirfoddolwyr i wneud arolwg topograffig o ardal y ffynnon a’r tir o’i chwmpas. Roedd hyn yn gofyn defnyddio gweithfan gyfansawdd (dyfais sy’n anfon laser at lens ar ben polyn sy’n mesur uchder, pellter, ac ati) i fesur y bryncynnau a’r twmpathau o amgylch y ffynnon er mwyn creu cynllun o’r safle. O hyn wedyn, gallem wneud cynllun cloddio o amrywiol leoliadau wrth ymyl y ffynnon.

Y Cloddio

Ym mis Medi 2019, bu 35 o wirfoddolwyr yn helpu i gloddio tair ffos gan gyfrannu mwy na 650 o oriau rhyngddynt. Roedd y ffosydd hyn gerllaw’r bont wrth ymyl basn y ffynnon, wrth y dyfrffos ac ar y man gwastad uwchlaw tarddell ffynnon Sant Dyfnog. Trwy gydol y tair wythnos y bu’r cloddio’n digwydd cafwyd hyd i lawer o ganfyddiadau diddorol, o fynedfa i’r ffynnon i chwarel Neolithig.

Gorchwyl Gwylio

Yn rhan o’r gwaith atgyweirio roedd gennym archeolegydd ar y safle’n gwneud gorchwyl gwylio ac yn cofnodi’r pethau a ganfuwyd wrth i’r gwaith symud yn ei flaen. Nodwyd yr hyn a ganfuwyd mewn adroddiad.

Dyma grynodeb byr o’r adroddiad interim am yr hyn a ganfuwyd.

Crynodeb o Adroddiad Ffynnon Sant Dyfnog

Cloddiwyd tair ffos fechan, un ar ben dwyreiniol y pwll, gerllaw’r bont (Ffos 1); un ar draws y dyfrffos dwyreiniol (Ffos 2) a’r drydedd ar y llwyfan, oddeutu 4 metr uwchlaw pen gorllewinol y pwll (Ffos 3).

Ffos 1

Roedd Ffos 1 ar ben dwyreiniol y pwll a chafodd ei chynllunio i ganfod a oedd grisiau i lawr at y pwll. Cyn y cloddio, gwelwyd bod cerrig yn gwthio allan o’r ddaear a oedd yn awgrymu bod strwythur yno ar un adeg efallai, grisiau mae’n debyg, ar y pen hwn i’r pwll. Felly, gosodwyd y ffos dros y cerrig hyn, ond roedd ei maint yn gyfyngedig am fod angen gallu cyrraedd y bont droed ar y pen hwn i’r pwll.

Datgelodd Ffos 1 wal arw a fyddai wedi bod yn rhan o’r mur allanol oedd yn amgylchynu’r pwll y mae hynafiaethwyr wedi sôn amdano.

Dangosodd y gwaith cloddio mai’r ardal hon oedd un o’r mannau mynediad gwreiddiol i’r pwll oedd wedi cael ei lenwi’n amlwg rywbryd yn ddiweddarach. Roedd gan un garreg a ddefnyddiwyd dwll amlwg wedi gwisgo yn ei hwyneb uchaf, fel sy’n digwydd lle mae bar colyn giât yn rhwbio ar garreg. Yn anffodus, doedd y garreg ddim yn ei lle, roedd rhywun wedi ei hailddefnyddio i lenwi bwlch yn y wal, ond mae’n debyg nad oedd wedi cael ei symud yn bell iawn a gallai awgrymu bod mur gyda giat yn amgylchynu’r pwll rywbryd yn y gorffennol.

Rhwng y pwll a’r fan lle credwn fod grisiau wedi bodoli, cawsom hyd i wyneb cobls garw.

Yng nghornel ogledd-ddwyreiniol yr hyn a gredwn oedd yn fan caeedig, gwelsom fwa o flociau cerrig. Mae’n anodd gwybod beth oedd pwrpas hon ond, un posibilrwydd yw ei bod yn blatfform ar gyfer rhyw fath o addurniad, efallai ar gyfer un o’r delwon y soniwyd amdanynt yn y gweithiau ysgrifenedig hanesyddol.

Roedd popeth a ganfuwyd yn y ffos hon o’r cyfnod ar ôl yr oesoedd canol, gan adael rhywfaint o amheuaeth bod y safle wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y canol oesoedd. Yn wir, ni chafwyd hyn i unrhyw ddeunydd canoloesol o gwbl mewn unrhyw un o’r ffosydd.

Ffos 2

Roedd Ffos 2 ar draws y dyfrffos sy’n arwain at Llanrhaeadr Hall. Doedd y dyfrffos ddim mor amlwg yma ag ydyw yn y dwyrain lle mae’n troi’n sianel sy’n torri drwy’r graig. Ni chafwyd hyd i unrhyw beth nodedig iawn.

Mae’r canfyddiadau i gyd a gafwyd o’r ffos yn rhai o’r cyfnod ôl-ganoloesol, gydag un darn prin o grochenwaith ôl-ganoloesol, un darn o goes cetyn clai ac un dant ceffyl/buwch.

Ffos 3

Lluniwyd Ffos 3 i archwilio’r ardal wastad uwchlaw’r pwll. Dyma’r unig fan gweddol wastad gerllaw’r pwll ac felly, os oedd adeiladau neu strwythurau i’w cael oedd yn gysylltiedig â’r ffynnon, dyma oedd eu lleoliad mwyaf tebygol.

Wrth glirio’r llystyfiant daeth yn amlwg bod twmpath o rwbel gweddol fodern ynghanol y ffos. Mae’n aneglur beth oedd hwn ond efallai ei fod yn arwydd bod yr ardal wedi cael ei chlirio ar ryw bwynt.

Ar ôl tynnu hwn, roedd hi’n edrych yn debyg bod dau ddarn i’r ffos. Ar y pen gorllewinol i’r ffos roedd gwrthrychau fel potel jin wydr gyflawn a darnau o frics wedi eu ffurfio â’r llaw. Gallai’r rhain ddangos o bosib bod adeilad yn bodoli gerllaw ar un adeg ond ni chafwyd hyd i dystiolaeth o unrhyw waliau yn y lleoliad.

Roedd pen dwyreiniol y ffos yn hollol wahanol. Yn y fan hon roedd wyneb serth wedi ei dorri drwy’r graig. Roedd darnau o’r wyneb serth yn dangos staeniau pinc – arwydd o bosib bod y mannau hyn wedi cael eu twymo. Ar waelod yr wyneb serth roedd llinell o gnepynnau siert neu wagleoedd lle’r oedd cnepynnau wedi cael eu tynnu allan.

Ar waelod hwn canfuwyd 479 darn nadd o siert ynghyd â thair cobl wedi eu gwisgo gan ddŵr. Roedd marciau taro ar o leiaf un ochr i’r coblau hyn gan ddangos eu bod wedi cael eu defnyddio fel morthwylion ac hefyd cafwyd pedwar erfyn o siert, yn cynnwys pen saeth trawslin garw a mynawyd (erfyn bach pigfain a ddefnyddiwyd i dorri tyllau). Byddai’n ymddangos mai gweddillion yw’r rhain o chwarel o’r Oes Neolithig neu o’r Oes Efydd Gynnar nad oedd pobl yn ymwybodol ei bod yno, ac sy’n anghyffredin iawn.

Os hoffech ddysgu rhagor am ganfyddiadau’r cloddio a gwylio’r briff, cliciwch ar yr adroddiad os gwelwch yn dda.

Previous Post: «Trowelling Y Diweddaraf am y Coronafeirws
Next Post: Darlithoedd y Gaeaf CPAT 2020 – Ffynnon Sant Dyfnog Looking at finds coming out of Trench 2»

Primary Sidebar

Categoriau

  • Archaeoleg a Hanes
  • Gwirfoddoli
  • Newyddion
  • Orielau
  • Ysgolion

Y newyddion diweddaraf

  • Volunteering dates and events for June 2022
  • Cyflwyno’r Cydlynwyr newydd Ymgysylltu â’r Gymuned a Gwirfoddolwyr
  • Y prosiect atgyweirio Ffynnon Sant Dyfnog hyd yma
  • Prosiect Ysgol – Gwneud ffilm
  • Croeso i wefan newydd Ffynnon Sant Dyfnog

Oriel

Volunteers surveying in the trenches
Volunteers clearing back Trench 3

Footer

  • Polisi Preifatrwydd
  • Ein Cefndir
  • Ein stori
  • Y Cloddio
  • Cysylltu
heritage lottery fund logo

Copyright © 2022 St Dyfnog's Well. All rights reserved.

Registered Charity no. 1185488

Colony of Ants Web Design and Development